Am y rhaglen

Mae o leiaf un man addoli ym mron pob pentref, ward neu gymdogaeth ledled y wlad; 85 y cant o'r boblogaeth yn ymweld â man addoli bob flwyddyn. Maent yn aml yr adeilad mwyaf nodedig mewn ardal, yn ffocws ar gyfer llawer o weithgareddau sifil a chymdeithasol yn ogystal ag addoli, ac maent yn darparu cysylltiad gweledol pwerus â'n gorffennol.

Mae dros 1,100 o leoedd addoli hanesyddol ar Gofrestrau Adeiladau Mewn Risg cenedlaethol ar draws y DU. Mae arnynt angen arian ar gyfer gwaith atgyweirio hanfodol. Amcangyfrifodd arolwg o holl addoldai rhestredig yn Lloegr cyfanswm gwerth y gwaith atgyweirio i fod oddeutu £925m dros gyfnod o bum mlynedd. Gall cynulleidfaoedd a'r cymunedau lleol ar hyn o bryd godi tua hanner o'r cyfanswm hwn, felly mae rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol yn angenrheidiol i sicrhau'r buddiannau cyhoeddus sylweddol iawn o fannau addoli hanesyddol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Difrod gan ddŵr glaw yn aml yw’r prif reswm pam fod mannau addoli hanesyddol mewn perygl.

Gall dŵr gael mynediad i adeilad drwy lechi neu deils wedi torri neu lithro, gorchuddion plwm wedi hollti, gwteri diffygiol neu wedi eu rhwystro, pibellau a draeniau. Gall dŵr achosi nifer o wahanol broblemau ac yn bygwth gwaith plastro, murluniau, a ffitiadau a dodrefn yn gyflym. Mae lleoedd llaith yn darparu amodau amgylcheddol delfrydol ar gyfer twf ffwngaidd a phlâu pryfed, y ddau yn peri risg sylweddol i goed y to a gwaith coed eraill. Bydd gwaith maen a brics hefyd yn dirywio'n gyflym os yn ddirlawn.

Gall llawer o'r pydredd hwn gael ei arafu'n sylweddol neu ei atal yn gyfan gwbl gan, yn syml, atal dŵr rhag dod i mewn. Mae sicrhau toeau yn bod mannau addoli yn parhau i ddarparu amgylchedd addas ar gyfer addoli yn ogystal â gweithgareddau ehangach cymunedol gan gynnwys gwasanaethau allgymorth cymdeithasol a chymorth. Bydd adeilad gyda tho da yn cynnal nid yn unig hirhoedledd yr adeilad ond hefyd integreiddio effeithiol o'r man addoli gyda'i gymuned leol. Bydd y gronfa hon felly yn sicrhau etifeddiaeth barhaol.

Mae gan yr ail rownd o ariannu gyllideb cyffredinol o £25 miliwn.

Fe'i gweinyddir gan Gronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol (CGDG). Mae gan CGDG brofiad sylweddol o sefydlu rhaglenni mewn ymateb i anghenion penodol er mwyn dosbarthu grantiau’n effeithlon ac yn effeithiol ar draws y DU.

Mae grantiau ar gael rhwng £10,000 a £100,000. Rydym yn gwybod y bydd rhai prosiectau atgyweirio yn costio mwy na £100,000 ond rydym eisiau sicrhau ein bod yn gallu helpu cymaint o fannau addoli ag y bo modd. Y dystiolaeth ydi y bydd gwaith atgyweirio bach a wneir yn gyflym yn arbed symiau mawr o arian yn y tymor canolig i'r tymor hwy.

Ar gyfer prosiectau atgyweirio brys mwy lle ceisir grant o dros £100,000, rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'ch swyddfa Cronfa Dreftadaeth y Loteri leol i weld a allech fod yn gymwys i wneud cais i un o'i raglenni grant.

Gallwch, os gallwch ddangos eich bod yn gallu codi'r arian ychwanegol i gwblhau eich prosiect yn llwyddiannus. Ni all yr arian ychwanegol ddod o’r loteri neu ffynonellau cyllid cyhoeddus arall ac eithrio'r Cynllun Grantiau ar gyfer Addoldai Rhestredig (gweler isod). Ni fydd angen i chi fod wedi sicrhau eich arian cyfatebol pan fyddwch yn gwneud cais am grant (cyfeiriwch at y canllawiau ymgeisio am ragor o wybodaeth).

Mae cyllid ar gyfer y cynllun hwn wedi cael ei ddarparu gan y Llywodraeth o'r dyraniad cyllideb y flwyddyn ariannol 2014/15. Felly, mae angen gwneud pob dyfarniad grant cyn 31 Mawrth, 2015 (er y bydd taliadau'n cael eu gwneud yn ddiweddarach). Rydym wedi ceisio sicrhau bod y ffenestr ar gyfer ceisiadau ar agor mor hir ag y bo modd, tra'n caniatáu digon o amser i brosesu'r holl wybodaeth a gyflwynir ac i wneud penderfyniadau ynghylch pa brosiectau i'w cefnogi. Rydym yn cydnabod y bydd yr amserlen yn her a dyna pam yr ydym wedi ceisio lleihau'r wybodaeth sydd ei hangen gyda chais cyn belled ag y bo'n rhesymol bosibl.

Gwneir penderfyniadau mewn cyfarfod Bwrdd CGDG ar Fehefin 26, 2016. Fe fyddwn yn dweud wrth ymgeiswyr ein penderfyniad mor fuan ag sy’n bosibl wedi’r cyfarfod.